R -
Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi’i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn cromfachau)
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
1. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud tuag at wella'r strwythur gyrfa i weithwyr gofal? OAQ(4)0312(HSS)
2. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith amlasiantaeth i ddiogelu pobl sy’n agored i niwed? OAQ(4)0324(HSS)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn 2013 i fynd i'r afael â diabetes yng Nghymru? OAQ(4)0308(HSS)
4. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl i roi'r gorau i smygu? OAQ(4)0323(HSS)
5. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod yr holl leoedd sydd ar gael ar Gynghorau Iechyd Cymuned yn cael eu llenwi? OAQ(4)0318(HSS)
6. William Powell (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth gofal iechyd yn Sir Drefaldwyn? OAQ(4)0317(HSS)
7. Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trefniadau presennol ar gyfer hyfforddi staff ambiwlans yng Nghymru? OAQ(4)0314(HSS)
8. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael i bobl â chlefyd Crohn a Cholitis? OAQ(4)0311(HSS)
9. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o gydraddoldeb mynediad at wasanaethau iechyd a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr? OAQ(4)0310(HSS)
10. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa brotocolau y mae byrddau iechyd yn eu gweithredu i sicrhau bod pobl â diabetes yn cael gofal priodol yn yr ysbyty? OAQ(4)0322(HSS)
11. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lefel y mabwysiadu yng Nghymru? OAQ(4)0309(HSS)
12. Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru o ran asesu ceisiadau cyllido cleifion unigol? OAQ(4)0321(HSS)
13. David Rees (Aberafan): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gynorthwyo nyrsio cymunedol? OAQ(4)0320(HSS)
14. Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y goblygiadau i Gymru yn sgîl Adolygiad Cavendish? OAQ(4)0316(HSS)
15. Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd? OAQ(4)0315(HSS)
Gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol
1. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei ddarparu i'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd ynglŷn â chymhwysedd deddfwriaethol y Bil Sector Amaethyddol (Cymru)? OAQ(4)0050(CG)W
2. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael gyda swyddogion y gyfraith mewn mannau eraill ynglŷn â chymhwysedd deddfwriaethol Biliau Llywodraeth Cymru? OAQ(4)0049(CG)W
Gofyn i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi
1. Gwyn Price (Islwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith contractau dim oriau ar safonau byw yng Nghymru? OAQ(4)0068(CTP)
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau tlodi yn Sir Gâr? OAQ(4)0065(CTP)
3. Julie James (Gorllewin Abertawe): Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i rymuso Undebau Credyd i'w galluogi hwy i ddarparu amrywiaeth lawn o wasanaethau? OAQ(4)0058(CTP)
4. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael yng Nghymru i bobl sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid? OAQ(4)0060(CTP)
5. Darren Millar (Gorllewin Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am dlodi trafnidiaeth yng Nghymru wledig? OAQ(4)0059(CTP)
6. Christine Chapman (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi yng Nghwm Cynon? OAQ(4)0063(CTP)
7. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y targedau ar gyfer trechu tlodi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu pennu? OAQ(4)0064(CTP)
8. Nick Ramsay (Mynwy): Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i’r afael â'r broblem o ddyledion personol yng Nghymru? OAQ(4)0062(CTP)
9. Paul Davies (Preseli Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i oresgyn rhwystrau i gydraddoldeb? OAQ(4)0057(CTP)
10. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o argaeledd gofal plant fforddiadwy i rieni sy'n gweithio? OAQ(4)0061(CTP)
11. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i liniaru effeithiau benthyciadau diwrnod cyflog? OAQ(4)0069(CTP)
12. Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mesur ei llwyddiant o ran trechu tlodi? OAQ(4)0067(CTP)
13. Jenny Rathbone (Canol Caerdydd): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â lleihau budd-daliadau nas hawliwyd yng Nghymru? OAQ(4)0066(CTP)
14. Mike Hedges (Dwyrain Abertawe): A wnaiff y Gweinidog roi’r wybodaeth ddiweddaraf am raglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru yn ardal Abertawe? OAQ(4)0056(CTP)
15. Ann Jones (Dyffryn Clwyd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth Llywodraeth Cymru i undebau credyd? OAQ(4)0055(CTP)